Amdanom ni

Cwmni y mae Cyngor Dinas Caerdydd yn berchen arno a sefydlwyd i gynnig gwasanaethau masnachol a chaffael i’r sector cyhoeddus ydym ni. Gweithwyr caffael proffesiynol, gwybodus, hynod brofiadol a phenigamp sydd wedi dangos hanes llwyddiannus o gyflawni canlyniadau eithriadol yw ein pobl.
Mae ein pobl wedi trawsnewid caffael yng Nghyngor Caerdydd trwy weithredu’n llwyddiannus y gwaith o reoli categorïau a defnyddio technoleg i arbed £40m yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae gan ein pobl llawer o brofiad a gwybodaeth o gategorïau penodol gan gynnwys Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Adeiladu ac Amgylcheddol, Corfforaethol, Trafnidiaeth a Rheoli Cyfleusterau.
Rydym ni “o’r Sector Cyhoeddus i’r Sector Cyhoeddus” ac yn cynnig gwasanaethau hyblyg wedi’u teilwra i fodloni gofynion penodol ein cleientiaid.











